Damcaniaeth graffiau Hanes | Cyfeiriadau | Llywio
Haniaeth graffiau
mathemateggwyddoniaeth gyfrifiadurolgraffiaufertigaubwyntiauymylonlinellauffwythiantLeonhard Euler1736VandermondeLeibnizCauchyL'Huillier1878Sylvesterproblem pedwar lliwFrancis Guthrie1852KempeKenneth AppelWolfgang Haken1976RobertsonSeymourSandersThomas1997genwsTaitHeawoodtopoleg18601930JordanKuratowskialgebrarheolau cylchred KirchhofftebygolrwyddErdősRényi
Damcaniaeth graffiau
Jump to navigation
Jump to search
Mewn mathemateg a gwyddoniaeth gyfrifiadurol, astudiaeth o graffiau yw damcaniaeth graffiau. Set o fertigau, nodau neu bwyntiau wedi'u cysylltu gan ymylon, arcau neu linellau yw "graff" yn y cyd-destyn hwn, ac ni ddylid ei ddrysu gyda'r "graff" sy'n perthyn i ffwythiant.
Hanes |
Mae'n debyg mae'r papur a sgrifennwyd gan Leonhard Euler am Saith Pont Königsberg ym 1736 oedd y cyntaf a gyhoeddwyd ynglŷn â damcaniaeth graffiau. Roedd y cyhoeddiad hwn, a phapur Vandermonde am broblem y marchog yn datblygu ymhellach yr analysis situs a gychwynwyd gan Leibniz.
Ymysg y mathemategwyr enwog oedd yn weithgar ar broblemau damcaniaeth graffiau yn y canrifoedd canlynol oedd Cauchy, L'Huillier, Arthur Cayley, George Pólya, a Nicolaas Govert de Bruijn. Bathwyd y term graph (yn ein ystyr ni) ym 1878 gan Sylvester.
Un o'r problemau enwocaf yn hanes damcaniaeth graffiau yw'r problem pedwar lliw. Lluniwyd y broblem gan Francis Guthrie ym 1852 hyd a wyddys. Ni lwyddodd neb i brofi'r ddamcaniaeth am dros ganrif, er i Cayley, Kempe ac eraill cynhyrchu profion gwallus . Fe gyhoeddodd Kenneth Appel a Wolfgang Haken prawf ohonni ym 1976, ond ni argyhoeddwyd pawb yn y gymuned fathemategol ohonno, am ei fod yn ddibynnol ar defnydd o gyfrifiadur i wirio 1936 o achosion arbennig. Rhoddwyd prwawf symlach, a ystyrir yn ddilys gan bawb mwy neu lai, gan Robertson, Seymour, Sanders and Thomas ym 1997.
Roedd y broblem pedwar lliw yn ysbrydolaeth astudiaeth o lliwio graffiau ar wynebau o wahanol genws gan Tait, Heawood, Frank P. Ramsey, Hugo Hadwiger, Julius Petersen, Pál Turán ac eraill.
Bu datblygiad annibynnol topoleg rhwng 1860 a 1930 cyfranu'n ffrwythlon iawn i damcaniaeth graffiau trwy weithiau Jordan, Kuratowski a Hassler Whitney. Bu datblygiad algebra haniaethol yn ddefnyddiol hefyd, ac roedd profi rheolau cylchred Kirchhoff yn enghraifft cynnar o hynny.
Cyflwynwyd dulliau tebygolrwydd mewn damcaniaeth graffiau gan Erdős ac Rényi, a arweiniodd at astudiaeth o hap-graffiau.
Cyfeiriadau |
Categori:
- Haniaeth graffiau
(window.RLQ=window.RLQ||[]).push(function()mw.config.set("wgPageParseReport":"limitreport":"cputime":"0.012","walltime":"0.020","ppvisitednodes":"value":79,"limit":1000000,"ppgeneratednodes":"value":0,"limit":1500000,"postexpandincludesize":"value":147,"limit":2097152,"templateargumentsize":"value":0,"limit":2097152,"expansiondepth":"value":4,"limit":40,"expensivefunctioncount":"value":0,"limit":500,"unstrip-depth":"value":0,"limit":20,"unstrip-size":"value":0,"limit":5000000,"entityaccesscount":"value":0,"limit":400,"timingprofile":["100.00% 2.921 1 Nodyn:Cyfeiriadau","100.00% 2.921 1 -total"],"cachereport":"origin":"mw1272","timestamp":"20190416030232","ttl":2592000,"transientcontent":false););"@context":"https://schema.org","@type":"Article","name":"Damcaniaeth graffiau","url":"https://cy.wikipedia.org/wiki/Damcaniaeth_graffiau","sameAs":"http://www.wikidata.org/entity/Q131476","mainEntity":"http://www.wikidata.org/entity/Q131476","author":"@type":"Organization","name":"Contributors to Wikimedia projects","publisher":"@type":"Organization","name":"Wikimedia Foundation, Inc.","logo":"@type":"ImageObject","url":"https://www.wikimedia.org/static/images/wmf-hor-googpub.png","datePublished":"2007-02-26T20:55:35Z","dateModified":"2019-01-03T22:29:24Z","image":"https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/5/5b/6n-graf.svg"(window.RLQ=window.RLQ||[]).push(function()mw.config.set("wgBackendResponseTime":115,"wgHostname":"mw1331"););