Gullfoss Gullfoss mewn Diwylliant Boblogaidd | Oriel | Cyfeiradau | Llywio"Gullfoss Sigridur Tomasdottir"y gwreiddiol"The Odd Saga of the American and a Curious Icelandic Flock"
Gwlad yr IâÞingvellirgeyserHaukadalur
Gullfoss
Jump to navigation
Jump to search
Mae Gullfoss ("Rhaeadrau Aur"; Icelandic pronunciation (help·info)) yn rhaeadrau wedi ei lleoli mewn canyon ar yr afon Hvítá yn ne orllewin Gwlad yr Iâ.
Gullfoss yw un o atyiadau twristaidd mwyaf poblogaidd Gwlad yr Iâ. Mae'n rhan o gylchdaith enwog y 'Golden Ring' syn cynnwys y Þingvellir a geyser Haukadalur sy'n boblogaidd gyda thwristiaid.
Mae'r afon Hvítá lydan yn rhuthro i'r de a, tua cilomedr cyn y rhaeadr ystumio'n dynn i'r dde gan lifo lawr bwa tair-gris cyn cwympo'n sydyn mewn dau gymal (11 metr neu 36 feet, a 21 metr neu 69 feet) mewn i hollt 32 metr (105 ft) o ddyfnder. Mae'r hollt oddeutu 20 metr (66 ft) o led a 2.5 kilometr (1.6 mi) o hyd. Bydd, ar gyfartaledd, tua 140 cubic metre (4,900 cu ft) o ddŵr yn llifo lawr y rheadr yr eiliad yn yr haf a 80 cubic metre (2,800 cu ft) yr eiliad yn y gaeaf. Roedd y llif uchaf a nodwyd yno yn 2,000 cubic metre (71,000 cu ft) yr eiliad.
Yn ystod hanner cyntaf 20g ac am rai blynyddoedd yn hwyr yn yr 20g bu sôn am ddefnyddio Gullfoss er mwyn cynhyrchu trydan. Ond methiant bu hyn, yn rannol oherwydd diffyg arian. Gwerthwyd y rhaeadr maes o law i wladwriaeth Gwlad yr Iâ. Mae bellach wedi ei warchod.
Roedd Sigríður Tómasdóttir, merch un o berchnogion Gullfoss, Tómas Tómasson, yn benderfynnol o gadw'r rhaeadr, er iddi fygwth daflu ei hun mewn iddo fel hunanladdiad. Er bod nifer yn dal i gredu mai Sigríður achubodd y rhaeadr i'w warchod, dydy'r stori ddim yn wir. Ond mae cofeb carreg iddi uwchlaw'r rhaeadr sy'n dangos ei proffil.[1]
Gullfoss mewn Diwylliant Boblogaidd |
- Mae Gullfoss yn ymddangos ar glawr albwm "Porcupine" gan y grŵp Saesnig, Echo and the Bunnymen.
- Sonir am y rhaeadrau yn y nofelig, The Odd Saga of the American and a Curious Icelandic Flock;[2] yn ystod cinio noda Snorri ei hoffter o raeadr Gullfoss, tra bod Dr. Gustafsson yn ffafrio Glymur.
- Ymddangosa Gullfoss yn fideo pop "Heaven" gan y band Live.
Chwarae'r ffeil gyfrwng
Oriel |
Wrth edrych lawr y dyffryn.
Gullfoss yn y niwl 30 Mehefin, 2005.
Gullfoss yn hwyr ym mis Mawrth, 2007.
Gullfoss yn yr haul, Mai 2006.
Haf 2014.
Golygfa o'r ffin.
Gullfoss ar 22 Chwefror 2017
Cyfeiradau |
↑ "Gullfoss Sigridur Tomasdottir". Nat.is. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2011-10-14. https://web.archive.org/web/20111014045607/http://www.nat.is/travelguideeng/gullfoss_sigridur_tomasdottir.htm. Adalwyd 2012-01-01.
↑
"The Odd Saga of the American and a Curious Icelandic Flock". Google Books. https://books.google.com/books/about/The_Odd_Saga_of_the_American_and_a_Curio.html?id=ZxaStgAACAAJ. Adalwyd May 5, 2012.
(window.RLQ=window.RLQ||[]).push(function()mw.config.set("wgPageParseReport":"limitreport":"cputime":"0.152","walltime":"0.226","ppvisitednodes":"value":1131,"limit":1000000,"ppgeneratednodes":"value":0,"limit":1500000,"postexpandincludesize":"value":6995,"limit":2097152,"templateargumentsize":"value":4026,"limit":2097152,"expansiondepth":"value":11,"limit":40,"expensivefunctioncount":"value":1,"limit":500,"unstrip-depth":"value":0,"limit":20,"unstrip-size":"value":6368,"limit":5000000,"entityaccesscount":"value":0,"limit":400,"timingprofile":["100.00% 211.909 1 -total"," 28.17% 59.703 8 Nodyn:Convert"," 18.41% 39.008 2 Nodyn:Cite_web"," 13.79% 29.231 2 Nodyn:Citation/core"," 4.01% 8.505 1 Nodyn:Audio"," 1.50% 3.171 4 Nodyn:Citation/make_link"],"scribunto":"limitreport-timeusage":"value":"0.024","limit":"10.000","limitreport-memusage":"value":2368852,"limit":52428800,"cachereport":"origin":"mw1346","timestamp":"20190301122059","ttl":2592000,"transientcontent":false);mw.config.set("wgBackendResponseTime":134,"wgHostname":"mw1325"););